Mae’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd yng Nghymru yn newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system fwy hyblyg ac ymatebol o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau ac mae’n ymdrechu i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr Cymru.
Os hoffech drafod anghenion addysgol unigol eich plentyn yna gwnewch apwyntiad gyda’n Cydlynydd ADY Mrs Evans.