E-ddiogelwch

Rydym yn deall y cyfrifoldeb i addysgu ein disgyblion mewn materion e-ddiogelwch; addysgu’r ymddygiadau a’r meddwl beirniadol priodol iddynt i’w galluogi i aros yn ddiogel ac yn gyfreithlon wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnolegau cysylltiedig, o fewn cyd-destun yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Mae Swyddog Heddlu Ysgol yn ymweld â’r ysgol i gefnogi’r dysgu o fewn y dosbarth, ac i sicrhau bod negeseuon diogelu yn cael eu rhannu gyda’r plant a’r staff.

Mae pob dosbarth yn dilyn rheolau SMART ar gyfer diogelwch ar-lein.

Gwybodaeth ar gyfer rhieni:

SchoolBeat.cymru -Gwefan ddwyieithog o Raglen Ysgolion Heddlu Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth ac adnoddau i ddisgyblionathrawon a rhieni i atgyfnerthu negeseuon allweddol a gyflwynir gan ein Swyddogion Heddlu Ysgolion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Thinkuknow – rhaglen addysg gan dîm Addysg CEOP yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n darparu gwybodaeth ac adnoddau i ddisgyblion, athrawon a rhieni.

Ask about games– gwefan sy’n darparu gwybodaeth am gemau cyfrifiadurol addas.

Keeping safe online -Y newyddion, canllawiau, adnoddau a hyfforddiant diweddaraf i helpu  i ddisgyblion, athrawon a rhieni i gadw’n ddiogel ac yn wybodus ar-lein.

Internet Matters– gwefan sy’n darparu gwybodaeth i rieni ac athrawon gan gynnwys restrau gwirio diogelwch ar-lein oedran-benodol, canllawiau ar sut i osod rheolaethau rhieni ar ystod o ddyfeisiau. Fe welwch lu o awgrymiadau ymarferol i helpu plant i gael y gorau o’u byd digidol.