Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd yng Nghymru bydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud yn siŵr bod gan
pob plentyn y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau y bydd eu hangen arnyn nhw i wneud y
gorau o fywyd.
Wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Bydd y Cwricwlwm i Gymru’n cynnwys:
- 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
- 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
- deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.
Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Celfyddydau mynegiannol
- Iechyd a lles
- Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,)
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y linc isod: